R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli Treth Dir y Dreth Stamp? OAQ(4)0364(FIN)
2. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses ar gyfer caffael technoleg gwybodaeth gan sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0370(FIN)
3. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion Cyllid y DU ynghylch fformiwla Barnett? OAQ(4)0377(FIN)W
4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer adolygu blaenoriaethau gwariant yn ystod y Pedwerydd Cynulliad? OAQ(4)0374(FIN)
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid cyffredinol i'r portffolio Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0373(FIN)W
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid cyffredinol i'r portffolio Tai ac Adfywio? OAQ(4)0367(FIN)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ail gyllideb atodol 2013-14? OAQ(4)0371(FIN)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol o £55m a gyhoeddwyd yn ail gyllideb atodol 2013-14 Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0375(FIN)
9. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision Cronfa Gymdeithasol Ewrop i bobl yn Rhondda Cynon Taf? OAQ(4)0372(FIN)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gaffael cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0378(FIN)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni gwerth am arian ar draws pob un o adrannau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0363(FIN)
12. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rownd nesaf o gyllid Ewropeaidd? OAQ(4)0365(FIN)
13. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli pwerau ariannol? OAQ(4)0368(FIN)W
14. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ran annog y defnydd o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i Gymru? OAQ(4)0369(FIN)
15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllido ychwanegol i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ail gyllideb atodol 2013-14? OAQ(4)0376(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1.
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A
wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o Barthau Dim Galw Diwahoddiad
sy'n cael eu gweithredu ledled Cymru? OAQ(4)0375(LG)
2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru? OAQ(4)0391(LG)W
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae awdurdodau lleol yn cael eu monitro o ran gweithredu polisi Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0383(LG)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gynnal dadansoddiad cost a budd o argymhellion Comisiwn Williams? OAQ(4)0381(LG)W
5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch eu prosesau archwilio? OAQ(4)0385(LG)
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflawni gwerth am arian ar draws llywodraeth leol? OAQ(4)0382(LG)W
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddiogelu merched rhag anffurfio organau rhywiol menywod? OAQ(4)0380(LG)
8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i awdurdodau lleol ynghylch lleihau lefelau goleuo strydoedd preswyl fel mesur i arbed arian? OAQ(4)0390(LG)
9.
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn
sicrhau'r gwerth gorau am arian o'r cyllid y maent yn ei gael?
OAQ(4)0376(LG)
10. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â phwysau ariannol ar awdurdodau lleol gwledig? OAQ(4)0386(LG)
11.
Leighton Andrews (Rhondda): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu llywodraeth leol?
OAQ(4)0377(LG)
12. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod cynghorau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwell gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf? OAQ(4)0387(LG)
13.
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A
wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer
cydweithio mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0378(LG)
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y materion sy'n wynebu awdurdodau lleol gwledig yng Nghymru OAQ(4)0388(LG)R
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarlledu trafodion awdurdodau lleol Cymru yn fyw ar y we? OAQ(4)0389(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa werthusiad sydd wedi ei wneud o berfformiad y pwmp gwres o'r ddaear sy'n gwasanaethu adeilad y Senedd? OAQ(4)0079(AC)